Yn Ysgol Rhydypennau, rydym yn angerddol ynglŷn ag addysg Cyfrwng Cymraeg ac yn ceisio darparu profiadau dysgu sy'n ysgogi a datblygu pob disgybl i fod yn ddysgwyr annibynnol a hyderus mewn awyrgylch lle rydym yn 'Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd'. Rydym yn ceisio datblygu a meithrin talentau a diddordebau unigolion a rhoi dechreuad haeddiannol i addysg bob plentyn, wrth greu diwylliant o ddisgwyliadau uchel a dyheadau ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Teimlwn yn freintiedig gael gweithio mewn ardal mor brydferth yng nghanol cefn gwlad Ceredigion mewn cymuned glos, lle rydym yn falch iawn o'n cysylltiadau cymunedol. Fel ysgol sydd â ffocws cymunedol cryf, rydym yn parchu bod cydweithio ac ymrwymiad holl rhanddeiliaid yr ysgol yn elfen allweddol i'w llwyddiant. Mae'r parch sy'n treiddio trwy gymuned yr ysgol, rhwng y disgyblion, staff, rhieni a'r gymuned ehangach yn elfen gref o'n hysgol, ac mae'r cydweithio agos yma'n sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol wedi eu gwerthfawrogi. Mae'r bartneriaeth agos hon yn sicrhau fod pob unigolyn yn derbyn her academaidd, yn cael eu hysbrydoli'n greadigol ac yn derbyn cefnogaeth ac anogaeth yn eu datblygiad personol a chymdeithasol. Gyda'r balans yma, mae plant Ysgol Rhydypennau yn datblygu yn ddisgyblion a dinasyddion cyfrifol gyda'r hunan-barch sydd angen er mwyn llwyddo mewn bywyd. Gobeithio bod y wefan hon yn rhoi blas i chi o waith a bywyd yr ysgol, ac yn rhoi syniad i chi o'i nod a'i hamcanion. Fodd bynnag, os hoffech wybod mwy amdanom ni, rwy'n eich annog chi'n gryf i ymweld â'r ysgol er mwyn profi i'ch hun yr awyrgylch hapus a gofalgar sydd eisoes y bodoli yma. |
At Ysgol Rhydypennau we are passionate about Welsh medium education and work hard to give our pupils experiences which will equip them with the necessary skills to become confident independent learners. We aim to develop each child fully and nurture individual talents and interests and give them the start in life that embeds a culture of high standards and aspirations for their future.
We feel very privileged to work in such a beautiful part of the Welsh countryside and pride ourselves on providing a meaningful bilingual education and are proud of our strong community links. As a community focused school we recognise that the engagement of all stakeholders is an important aspect of a successful school. In essence, we feel our school is a place where children, staff and families are valued and all work together to ensure that children are challenged academically, inspired creatively and supported and fostered in their emotional development. With the correct balance, our pupils develop the self-respect and self-esteem they need to succeed in life. I hope that this website provides you with a taster of what we do and strive to achieve. However, should you like to find out more about our school, I would encourage you to make a personal visit to experience for yourself the happy, caring atmosphere and strong commitment that we provide. |
Peter Leggett (Pennaeth / Headteacher)
Ysgol Gymunedol Rhydypennau, Bow Street, Aberystwyth, Ceredigion. SY24 5AD
Rhif ffôn / Tel: 01970 828608 e-bost / e-mail: [email protected] trydar / X : @YGRhydypennau
Rhif ffôn / Tel: 01970 828608 e-bost / e-mail: [email protected] trydar / X : @YGRhydypennau
Proudly powered by Weebly