![]() |
YSGOL RHYDYPENNAU | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
'Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd' |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| English | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1. Enw a chyfeiriad yr ysgol 2. Rhif ffôn yr ysgol 3. Prifathro 4. Dirprwy Brifathro 5. Athrawon 6. Llywodraethwyr 7. Gofalwr 8. Math o ysgol 9. Ysgol Uwchradd 10. Trefniadaeth yr Ysgol 11. Staff 12. Staff Ychwanegol 13. Gwasanaeth Athrawon Bro 14. Trefn cinio 15. Trefn yr Uned Feithrin 16. Trefn Adran yBabanod / Ysgol Iau 17. Nod ac Amcanion 18. Y Cwricwlwm 19. Strategaeth Iaith 21. Addysg Grefyddol 22. Addysg Ryw 23. Gwaith Cartref 24. Gweithgareddau 25. Clybiau Llyfrau 26. Cynllun Cerdd 26. Gwisg Ysgol 27. Datblygiad y Plentyn 28. Gofal Bugeiliol 29. Tywydd Garw 30. Disgybliaeth a Rheolau’r Ysgol 31. Cysylltiadau Rhieni â’r Ysgol 32. Gwasanaethau Cynorthwyol 33. Calendr Gwyliau 34. Polisiau 35. Anghenion Arbennig 36. Gwybodaeth ynglŷn â sut i gwyno. 37. Rhwydwaith Ysgolion Iach, Eco a Masnach Deg 38. Cymryd Gwyliau Teuluol Adeg Tymor
1.Enw a Chyfeiriad yr Ysgol.
Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau, Bow Street, Ceredigion SY24 5AD.
2.Rhif ffôn a ffacs yr Ysgol. (01970) 828608 3.Prifathro. Mr. J.A. Havard 4.Dirprwy Brifathro. Mr. M. Jones 5.Athrawon.
Mr. M. Jones - Blwyddyn 6 6.Llywodraethwyr. Cyng. P Hinge, Cyng. G.Phillips (Is-Gadeirydd), Mae Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Rhydypennau yn cyfarfod unwaith y tymor. Cynhelir cyfarfod agored i rieni unwaith y flwyddyn. Copi o’r cofnodion i’w gweld yng nghyntedd yr ysgol. 7.Gofalwr. Mrs. G. Mathias
8.Math o Ysgol. Ysgol Categori A Meithrin/Babanod/Iau (3 – 11 mlwydd oed) Derbynnir tua 26 plentyn y flwyddyn
9.Ysgol Uwchradd. Trosglwyddir y plant pan yn 11 oed i Ysgol Gyfun Penweddig neu Ysgol Gyfun Penglais yn unol â dewis y rhieni.
10.Trefniadaeth yr Ysgol. Derbynnir plant i’r Dosbarth Meithrin ar ddechrau’r tymor wedi iddynt gael eu tair oed. Bydd y plant dros 4 oed ar ddechrau blwyddyn ysgol yn aros drwy’r dydd yn y Dosbarth Derbyn. Darperir cinio ar eu cyfer a’i gludir o’r Ysgol Iau. Bydd yr Uned Feithrin ar agor rhwng 9.00 y.b. a 3.15 y.p. Bydd y Babanod/Iau ar agor rhwng 9.00 y.b. a 3.30 y.p. Gofelir am blant 15 munud cyn agor a 15 munud ar ôl adeg cau. Amser cinio yw 12 hyd 1 o’r gloch.Gwaherddir ceir rhag dod i fewn trwy lidiardau’r ysgol heb ganiatad. Disgwylir i’r rhieni roi gwybod i’r Prifathro os bydd plentyn yn absennol. Disgwylir hefyd i’r rhieni roi gwybod i’r ysgol am ymweliadau â’r deintydd neu feddyg a.y.y.b. yn y bore ac yn bwriadu cyrraedd yr ysgol erbyn cinio.
11.Staff. Dibynna rhif y staff ar rif y plant sydd yn yr ysgol. Gall y ddau rif amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Ar hyn o bryd nid yw’r Prifathro â gofal dosbarth a cheir athro ar gyfer bob blwyddyn ysgol, sef 8 athro a 6 cynorthwywraig yn gyfrifol am blant unigol ac un cynorthwywraig feithrin ac un cynorthwywraig dosbarth (0.5) yn yr uned feithrin.
12.Staff Ychwanegol. Dibynna hyn ar drefniant yr ysgol a’r Swyddfa Addysg. Amrywia nifer yr athrawon teithiol sy’n dysgu offerynnau cerdd yn ôl y ddarpariaeth a gynigir gan y Trefnydd Cerdd.
13.Gwasanaeth Athrawon Bro. Ers 1978 apwyntiwyd 26 o Athrawon Bro gan Ddyfed (8 i Geredigion) igynorthwyo ysgolion cynradd (gan fwyaf) gyda chyflwyno’r Gymraeg fel mamiaith ac ail-iaith. Gosodir yr Athrawon Iaith hyn mewn ysgolion mewn ymgynghoriad rhwng y prifathrawon a’r Ymgynghorydd Iaith. Un agwedd bwysig ar eu gweithgarwch yw hyfforddi’r hwyr-ddyfodiad a pharatowyd cwrs arbennig ar gyfer y mewn-ddyfodiad hyn. Sefydlwyd Uned Iaith ar gyfer hwyr-ddyfodiad yn Ysgol Gyfun Penweddig yn1990. 14.Trefn Cinio Mrs. M. Fleming yw’r prif-gogyddes sy’n gyfrifol am baratoi cinio ganol dydd. Y pris ar hyn o bryd yw £1.65 y dydd i’w dalu bob bore Llun i’r clerc, Mrs. G. Mathias. Bydd y clerc hefyd yn bresennol bob Bore Gwener i gwblhau cyfrifon yr wythnos.Mae yna bedair aelod o staff yn y gegin a phedair ofalwraig amser cinio yn yr ysgol newydd.Gellir cael ffurflen gais am ginio di-dâl gan y prifathro neu o’r Swyddfa Rhanbarthol yn Aberystwyth. Os yw’r plentyn yn dod â’i fwyd ei hun, gofynnir iddo beidio defnyddio poteli gwydr. Darperir plat a gwydraid o ddŵr iddynt. 15.Trefn yr Uned Feithrin. Ceir yma ddau ddosbarth Dosbarth Meithrin a Dosbarth Derbyn. 16.Trefn Adran y Babanod / Adran Iau. Ceir yma ddau ddosbarth ar gyfer adran y Babanod yn gweithio ar Ceir dwy ystafell ddosbarth ar gyfer yr adran Iau. Mae plant 7-8 oed ac 8-9 oed mewn un ystafell a phlant 9-10 oed a 10-11 oed yn yr ystafell arall. Yn ychwanegol i ddysgu eu dosbarthiadau defnyddir eu arbenigedd i ddysgu ar draws yr ystod oedran.
17.Nod Ac Amcanion
18.Y Cwricwlwm. Cael y plant yn rhugl yn y ddwy iaith yw nod yr ysgol. Cyfranna’r Uned Feithrin yn helaeth tuag at gyrraedd y nod yma.Rhoddir pwyslais ar ddiwylliant Cymreig yn ei holl agweddau er mwyn rhoi gwreiddiau i’r plentyn ac ymwybyddiaeth o berthyn. Dechreuir darllen ac ysgrifennu cyn gynted ag y bo’r plentyn yn barod i hynny, fel bo’r ddwy iaith yn cyd-ddatblygu yn yr ysgol gynradd, ac yn arwain at ddwyieithrwydd erbyn un-ar-ddeg oed. Pan dderbynnir plentyn di-Gymraeg i flynyddoedd olaf yr ysgol, gwneir trefniadau arbennig ar ei gyfer. Dewisir thema bob tymor. Cynllunir gwersi ar wahanol agweddau o’r thema yn cynnwys Mathemateg, Iaith, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg,T.G.Ch, Daearyddiaeth, Hanes, Cerddoriaeth, Celf, Addysg Gorfforol, Addysg Grefyddol ac A.B.Ch. gan gweithio o fewn canllawiau y Cwricwlwm Cenedlaethol.Daw cyfle trwy hyn i gyfleu gwybodaeth, i ennyn diddordeb, i feithrin deallusrwydd ac i ddatblygu medrau a hunan-fynegiant yn ddwy iaith. Mae llyfrgell gynhwysfawr ac adnoddau defnyddiol ar gyfer y plant a’r athrawon. Dysgir Addysg Gorfforol a Cherddoriaeth gan wneud defnydd o allu arbennig rhai aelodau o’r staff. Datblygir unrhyw ddiddordeb mewn offerynnau cerddorol. Ar hyn o bryd, caiff rhai disgyblion hyfforddiant telyn, gitâr, ffidl, soddgrwth, clarinet, ffliwt, ac offerynnau pres gyda chyfle i fod yn aelod o gerddorfa ysgolion cynradd Cylch Aberystwyth. 19.Strategaeth Iaith Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Rhydypennau yn rhoi gwerth ar ddatblygu
Bydd disgyblion sydd yn ymuno â’r ysgol o flwyddyn 3 ymlaen yn mynychu 20.Addysg Grefyddol. Cynnwys hwn wasanaeth bob dydd. Pwysleisir bod amser safonau Cristnogol a moesol. 21.Addysg Ryw. Nid oes cynllun ar gael i ddysgu Addysg Ryw. Mae unrhyw gwestiynau sy’n codi yn cael eu hateb gan yr athro mewn ffordd sensitif. 22.Gwaith Cartref. Anogir plant i fynd â llyfrau darllen adref a disgwylir i blant yn yr adran iau ddarllen un llyfr yr wythnos. 23.Gweithgareddau. Trefnir gwersi nofio i blant 8, 9, 10 ac 11 oed yn y pwll nofio yn Aberystwyth unwaith yr wythnos. Perthyn y timau pêl-droed a hoci i gynghrair y ‘Mini-Minor’ yn Aberystwyth. Maent yn chwarae’n rheolaidd ar foreau Sadwrn, ac yn ymarfer ar ôl ysgol bob dydd Mercher a Gwener. Cynhelir Adran yr Urdd rhwng 3.30 a 4.45 o’r gloch nosweithiauMercher a chefnogir Eisteddfod a Gwersylloedd yr Urdd bob blwyddyn. Dysgir y plant i gymryd diddordeb yn y gymdeithas leol. Drwy hyn gobeithir eu gwreiddio yn yr ardal a dangos iddynt eu cyfrifoldeb i’r gymuned leol. Cynhelir dau Wasanaeth Crefyddol arbennig bob blwyddyn sef Gwasanaeth Diolchgarwch yn yr Hydref a Gwasanaeth Ewyllys Da yn mis Mai. Bydd grwpiau o blant yn ymweld â Chartref Tregerddan yn gyson drwy’r flwyddyn i ddiddori’r henoed yno a cheisiwn ymweld â sefydliadau eraill yn yr ardal i hyrwyddo agweddau dyngarol. 24.Clybiau Llyfrau. Gall plant ymuno â chlwb llyfrau Sbondonics. Gallant archebu cylchgronau yr Urdd – Cip neu Wcw drwy’r ysgol. 25.Cynllun Cerdd. Gweinyddir yr hyfforddiant offerynnol a ddarperir dan y cynllun uchod gan y Trefnydd Cerdd yn y Swyddfa Addysg Rhanbarthol yn Aberystwyth. Yn ystod tymor yr Haf gweinyddir cyfres o Brofion Gallu Cerddorol cydnabyddedig i’r plant hynny fydd yn cael eu penblwydd yn wyth oed cyn diwedd mis Awst yn ysgol arbennig honno. Ar ôl i’r Trefnydd Cerdd dderbyn y canlyniadau ac ymgynghori â phrifathrawon ac athrawon dosbarth, cynnigir hyfforddiant i’r plant hynny fyddai’n debygol o elwa o dderbyn y fath hyfforddiant ac a fyddai’n derbyn cefnogaeth gartref gydag ymarfer ac yn y blaen.Ceisir cynnig hyfforddiant ar gynifer o wahanol offerynnau ac y mae amgylchiadau’n caniatau. Trefnir i’r gwersi gymryd lle nail ai yn yr ysgol neu mewn canolfan i ble y disgwylir i rieni fod yn gyfrifol am gludo’u plentyn. 26.Gwisg Ysgol. Mae gwisg ysgol ar gael, gellir archebu’r wisg o’r ysgol .Gofynnir i rieni ddarparu dillad addas i’w plant ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol. 27.Datblygiad y Plentyn. Gofala’r Pwyllgor Addysg am asesu pob plentyn pan fydd tua 5 oed i ddarganfod os oes galw am addysgu arbennig. Gellir trefnu asesiad seicolegol unrhyw adeg. Ers 1990 asesir plant 7 ac 11 oed yn ôl targedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae cyfle i bob rhiant yn y Cyfarfodydd Rhieni, a drefnir ddwywaith y flwyddyn fel rheol, i weld gwaith eu plentyn ac i gael trafodaeth gyda’r athro dosbarth. Rhoddir adroddiad ysgrifenedig i’r plant (5 -11 oed) unwaith y flwyddyn yng Nghorffennaf. Bydd pob athro dosbarth yn gweud ei orau i roi sylw personol i blentyn sydd âg anghenion arbennig. Trefnir gwersi iddo fel unigolyn neu mewn grŵp bychan.Bydd plant dros 7 oed gyda anghenion arbennig yn cael cyfle i gael gwersi ychwanegol gyda’r CAAA. 28.Gofal Bugeiliol. Gofynnir i’r rhieni roi gwybod i’r prifathro os oes gan y plentyn unrhyw wendid corfforol neu unrhyw alergedd. Os yw’r ddau riant yn gweithio, gofynnir am rif ffôn er mwyn medru cysylltu âg un ohonynt yn ystod y dydd pe bai rhaid. Os digwydd salwch neu ddamwain, ceisir yn gyntaf, ddod i gysylltiad â’r rhieni. Gwneir trefniadau i gludo’r plentyn i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth os bydd angen hynny. Gyda rhai anhwylderau mae Awdurdod Iechyd Ceredigion yn argymell cadw plant o’r ysgol am gyfnod penodol. Brech yr Ieir – 7 diwrnod wedi i’r smotiau ymddangos.
Brech Almaenig – 4 diwrnod wedi i’r smotiau ymddangos.
Brech Goch – 7 diwrnod wedi i’r smotiau ymddangos.
Clwy Pennau – 7 diwrnod wedi i’r chwydd ddiflannu. Ni ddylai’r plant gyrraedd yr ysgol fwy na chwarter awr cyn amser. Byddai o fantais fawr pe bai enw’r plentyn ar ei dillad uchaf, sgrepan ac esgidiau glaw. Ni ddylid dod âg unrhyw eitemau drud i’r ysgol. 29.Tywydd Garw. Bydd y Prifathro yr ysgol yn sicrhau bod rhieni yn cael rhybudd os bydd yr ysgol ar gau neu yn gorfod cau oherwydd tywydd garw. 30.Disgyblaeth a Rheolau’r Ysgol. Disgwylir i bob plentyn ymddwyn yn dderbyniol, gan ddangos parch tuag at eraill a thuag at offer ac adeiladau’r ysgol. 31.Cysylltiadau Rhieni a’r Ysgol. Fel mater o gwrteisi, disgwylir i’r rhieni hysbysu’r prifathro yn gyntaf pan fyddant yn ymweld â’r ysgol ar unrhyw fater.Gellir cysylltu a’r prifathro ar unrhyw adeg cyfleus. Hysbysir y rhieni o bob digwyddiad drwy gylchlythyrau. Trefnir o leiaf un cyfarfod y tymor gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yn nhymor yr Hydref pan etholir pwyllgor a swyddogion am y flwyddyn yn unol a chyfansoddiad y Gymdeithas. 32.Gwasanaeth Cynorthwyol. Ceir ymweliadau cyson gan y nyrs, meddyg, deintydd a therapydd lleferydd. Caiff y rhieni wybod am yr ymweliadau hyn ac ni threfnir unrhyw driniaeth heb ymghynghori a’r rhieni yn gyntaf. 33.Calendr Gwyliau. Bydd pob rhiant yn derbyn copi o galendr sy’n nodi dyddiadau gwyliau’r ysgol yn mis Gorffennaf. 34.Polisiau. Ar gael i’w gweld gan unrhyw riant yn yr ysgol. 35.Anghenion Arbennig. Therapydd Lleferydd – Miss. Manon Richards. Athrawes – Mrs. Bethan Davies CAAA. 36.Gwybodaeth Ynglŷn â Sut i Gwyno. Mae’r wybodaeth ynglŷn â sut i gwyno yn unol â Pholisi Awdurdod Addysg Ceredigion. Dylai’r rhieni drafod gyda’r Prifathro yn ôl yr angen. 37.Rhwydwaith Ysgolion Iach, Eco a Masnach Deg. Mae’r ysgol yn aelod o gynllun Ysgolion Iach Ceredigion ac yr ydym newydd ennill statws Cyfnod Tri-un or ysgolion cyntaf yng Ngheredigion i wireddu hyn. 'Rydym hefyd yn 'Ysgol Eco'; mae'r llwyddiant diweddar yma yn cydnabod gwaith di-flino'r staff a'r plant i ailgylchu, i bwysleisio agweddau gwyrdd ac i ofalu am yr amgylchedd. Mi fydd baner 'Ysgol Eco' yn ymddangos ar dir yr ysgol i gadarnhau yr orchest hon. Mae Masnach Deg yn agwedd bwysig iawn ym mywyd cyffredinol yr ysgol; heblaw am siop wythnosol sy'n gwerthu cynnyrch Masnach Deg, 'rydym hefyd yn trefnu gwasanaethau, gwersi a chyflwyniadau cyffredinol i bwysleisio ac i godi ymwybyddiaeth a phwysigrwydd yr elfen hon i bawb sy'n gysylltiedig a'r ysgol. 38.Cymryd Gwyliau Teuluol Adeg Tymor. Fel arfer, ni ddylai rhieni/gwarcheidwaid gymryd disgyblion ar wyliau adeg tymor, a pholisi Awdurdod Addysg Lleol Ceredigion yw eu hannog i beidio â gwneud hyn. Yn ôl Rheoliadau Presenoldeb Ysgol (Cofrestru Disgyblion) 1995, mae gan ysgolion hawl ddewisol i ganiatáu gwyliau teuluol blynyddol adeg tymor, ar yr amod fod yna amgylchiadau arbennig ar gyfer y cais, a bod y cais wedi’i gyflwyno ymlaen llaw gan y rhiant/gwarcheidwad sy’n preswylio gyda’r plentyn fel arfer. Dim ond y pennaeth all ganiatáu’r absenoldeb hon ond peidiwch â disgwyl i’r pennaeth dderbyn eich cais yn otomatig. Hefyd, nodwch mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir caniatáu absenoldeb o fwy na 10 niwrnod ysgol o fewn unrhyw flwyddyn ysgol. Bydd y pennaeth yn ystyried pob cais am absenoldeb gwyliau yn ofalus iawn gan gymryd i ystyriaeth oedran y disgybl, amseru’r gwyliau a hanes presenoldeb y disgybl. Yna, gwneir penderfyniad a ddylid rhoi caniatâd neu beidio. Os cymer y rhieni eu plentyn i ffwrdd ar wyliau heb ganiatâd cytunedig y pennaeth, yna bydd yr absenoldebau hyn yn rhai anawdurdodedig a chânt eu hadrodd yn ôl i’r Awdurdod Addysg Lleol. Petai’r ysgol yn caniatáu gwyliau adeg tymor, byddwn yn gofyn ichi drafod ffyrdd gyda’r pennaeth o gynorthwyo’ch plentyn i ddal i fyny â’r oriau addysg a gollwyd (50 awr ar gyfer gwyliau 10 niwrnod).
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||