'Tyfu a Dysgu Gyda'n Gilydd'

 
line decor
   English
line decor
   

 

Ysgol Eco.

Ysgol Eco

 Hwre! Rydym ni wedi derbyn ein hail faner Eco Sgolion erbyn hyn ac yn dal wrthi i wneud ein gorau glas i gadw ein hysgol ni yn wyrdd! Mae ein Eco-bwyllgor (cynrychiolwyr o bob dosbarth o flwyddyn 3 i fyny) yn cyfarfod yn aml ac yn dewis gweithredu ar elfennau o'r saith pwnc sy'n cwmpasu holl ethos Eco-sgolion sef Ynni, Trafnidiaeth, Byw'n iach, Dinasyddiaeth Fyd-eang, Lleihau gwastraff, Tir yr ysgol a Sbwriel. Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych ar ffyrdd o leihau ein biliau ynni trwy edrych ar sut i beidio a gwastraffu ynni a hefyd ymchwilio i'r posibilrwydd o gynhyrchu ynni adnewyddol o egni'r haul.