|
 |
Ysgol Iach.
Mae'r ysgol bellach yn ymdrechu'n galed i gyrraedd Cam 4 fel rhan o Gynllun Ysgolion Iach Ceredigion. Enillwyd Cam 1 nol yn 2004, Cam 2 flwyddyn yn ddiweddarach a Cham 3 yn 2007. Er mwyn ennill y Camau hyn, roedd yn rhaid cwblhau amryw o amcanion yn yr ysgol yn cynnwys agweddau ar Ddiogelwch, Yr Amgylchedd, Agweddau Corfforol, Bwyta'n Iach a chodi ymwybyddiaeth y plant o Gyffuriau yn ein Cymuned. Mae Cam 4 yn canolbwyntio ar wella a datblygu Gweithle Iach.
Mae Cynllun Ysgolion Iach Ceredigion wedi mabwysiadu deuddeg nod, fel ag a nodwyd gan CYIRhC.
1. Gwneud ati i hybu hunan-barch pob aelod o gymuned yr ysgol
2. Gwneud ati i ddatblygu perthnasau da ym mywyd beunyddiol yr ysgol
3. Diffinio, datblygu a chyfathrebu ethos cadarnhaol a gwerthoedd cymdeithasol priodol o fewn cymuned yr ysgol
4. Sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y cyfle i fanteisio ar heriadau addysgol cyffrous
5. Achub pob cyfle i wella amgylchfyd yr ysgol
6. Datblygu cysylltiadau da a gweithgareddau ar y cyd rhwng yr ysgol, y cartref a'r gymuned
7. Annog yr holl staff i gyflawni eu swyddogaeth o hybu iechyd, drwy ddatblygiad a hyfforddiant staff
8. Datblygu cwricwlwm addysg iechyd cydlynol a'i roi ar waith
9. Sefydlu perthnasau da gydag ysgolion cysylltiedig i sicrhau trosglwyddiad llyfn, yn gymdeithasol a hefyd mewn perthynas â rhaglen addysg iechyd ddatblygiadol
10. Datblygu'r ysgol yn weithle hybu iechyd ag ymroddiad i iechyd a lles y staff i gyd
11. Datblygu swyddogaeth gyflenwol holl bolisïau'r ysgol mewn perthynas â'r cwricwlwm addysg iechyd, fel y bo'r cwricwlwm yn adlewyrchu cynnwys y polisi a'r polisi'n atgyfnerthu'r cwricwlwm
12. Datblygu partneriaethau ag asiantaethau ac unigolion priodol, gan gynnwys gwasanaeth iechyd yr ysgol, er mwyn cael cyngor a chefnogaeth weithredol i addsyg iechyd a hybu iechyd yn yr ysgol

Y Cyngor Ysgol 2008-2009 Y Cyngor Ysgol 2009-2010

Y Cyngor Ysgol 2010-2011






Polisi Bwyd a Ffitrwydd
Rhagair
Cafodd y polisi hwn ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad ysgol gyfan. Er na all ysgolion ganfod yr holl atebion ar eu pennau eu hunain, mae’n fan lle y mae plant 4-16 oed yn treulio tua thraean o’u holl amser. Mae datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at fwyta’n iach a gweithgaredd corfforol yn hanfodol ar gyfer sicrhau negeseuon cyson, datblygiad priodol o sgiliau, amgylchfyd ysgol cefnogol a chysylltiadau ag adnoddau cymunedol.
Mae’r polisi hwn yn nodi darpariaeth bwyd a ffitrwydd cyfredol Ysgol Rhydypennau a’r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd a’u datblygu ymhellach.
Nodau Polisi Bwyd a Ffitrwydd yr Ysgol
- Gwella iechyd cymuned gyfan yr ysgol trwy sicrhau bod gan ddisgyblion y gallu i sefydlu a chynnal ffyrdd egniol o fyw a bwyta’n iach trwy gydol eu hoes.
- Sicrhau bod bwyd a maeth a gweithgaredd corfforol yn dod yn rhan annatod o werth cyffredinol yr ysgol a bod arfer gorau yn llinyn cyffredinol yng nghwricwlwm, amgylchfyd a chysylltiadau cymunedol yr ysgol.
- Datblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at bolisi bwyd a ffitrwydd yr ysgol. Mae polisi ysgol gyfan yn golygu rhannu gweledigaeth, cynllunio a datblygu cydlynol a chysondeb o ran cyflwyno gwasanaethau, negeseuon cwricwlwm a’r amgylchfyd ategol. Mae’n hwyluso trafodaeth, yn hybu rhanddeiliaid i gyfranogi’n eang ac i gredu yn, a pherchenogi ei nodau a’i amcanion.
Amcanion Polisi Bwyd a Ffitrwydd yr Ysgol
- Ethos
- Cydnabod effaith sylweddol y cwricwlwm anffurfiol ar addysg gymdeithasol ac emosiynol y disgyblion yn ogystal ag ar eu hiechyd corfforol a’u lles.
- Deall a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i ddatblygu’n gymdeithasol ac yn addysgol drwy drefnu a chyflwyno gweithgareddau bwyd a ffitrwydd trwy gydol y dydd a hybu disgyblion i gyfrannu at wneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod yr holl weithgareddau a’r gwasanaethau sydd yn ymwneud â bwyd a ffitrwydd a ddarparir ar gyfer disgyblion trwy gydol y diwrnod ysgol yn cyd-fynd â’r cwricwlwm a chanllawiau a rheoliadau cenedlaethol ar gyfer bwyd a ffitrwydd. Sicrhau bod disgyblion yn cyfrannu at wneud penderfyniadau o ran gweithgareddau bwyd a ffitrwydd.
- Cwricwlwm
Bydd yr ysgol yn adolygu sut mae’n cyflwyno’r cwricwlwm er mwyn sicrhau ei bod yn cynnig y canlynol ar gyfer ei disgyblion:
- Dealltwriaeth o’r berthynas sydd rhwng bwyd, gweithgarwch corfforol a’r manteision tymor byr a hir dymor i iechyd.
- Dysgu sgiliau sylfaenol ar gyfer prynu, paratoi a choginio bwyd a deall hylendid bwyd sylfaenol.
- Cyfleoedd i archwilio dylanwadau dewisiadau bwyd, gan gynnwys effeithiau’r cyfryngau drwy hysbysebu, marchnata, labelu a phecynnu bwyd.
- Negeseuon allweddol ynghylch iechyd y geg yn cael eu cyfleu’n glir ac yn gyson (yn cael ei ategu gan gynnwys a rheolaeth y gwasanaeth bwyd)
- Cyfleoedd yn y dosbarth ac yng nghefn gwlad i ddysgu am dyfu ac amaethu bwyd a’i effaith ar yr amgylchfyd.
- Cwrs astudio CC sydd wedi’i gynllunio’n dda mewn ymarfer corff sy’n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o AG, a gwneud yn fawr o gyfleoedd trawsgwricwlaidd i hyrwyddo gweithgarwch corfforol a’i berthynas â diet a maethiad.
- Rhaglen ysgol y tu allan i oriau ysgol sydd yn cynnwys amrediad eang o weithgareddau corfforol pwrpasol a phleserus ar gyfer disgyblion a staff. Gallai hyn hefyd gynnwys sgiliau coginio ymarferol yn seiliedig ar y Plât Bwyta’n Dda.
- Yr Amgylchfyd
Er mwyn sicrhau bod gweithrediad, cwmpas a chyflwyniad y gwasanaeth bwyd a darparu amrediad o weithgareddau chwaraeon a hamdden ysgogol y tu allan i’r cwricwlwm ffurfiol yn rhan arwyddocaol o ofal bugeiliol a lles disgyblion, bydd yr ysgol yn:
- Cydnabod bod rheoli disgyblion yn effeithiol yn ystod amser chwarae, amser cinio, cyn ac ar ôl ysgol yn fwy, yn hytrach nag yn llai, heriol nag yn ystod gwersi, ac felly sicrhau bod y cynlluniau i ddarparu digon o staff i’w goruchwylio yn ystod yr adegau hynny yn briodol.
- Cydnabod pwysigrwydd staff arlwyo a goruchwylwyr amser cinio wrth gynllunio’r ddarpariaeth amser cinio a chysylltu hynny â’r gweithgareddau sydd ar gael i ddisgyblion.
- Cydweithio ag arlwywyr ysgol a darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod digon o wybodaeth gan yr holl staff sydd yn helpu disgyblion i wneud dewisiadau iach.
- Cynnig amrediad eang o gampau, gweithgareddau chwarae a hamdden diogel ac ysgogol o dan do ac yn yr awyr agored. Mae cynlluniau datblygu Chwaraele Hybu Iechyd ac yn Y Parth yn adnoddau rhagorol ar gyfer ysgolion cynradd.
Bydd yr ysgol yn cysylltu â’r arlwywyr er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth bwyd yn cael ei gyflenwi ar sail ysgol gyfan/diwrnod cyfan ac yn darparu:
- Dewisiadau iach, maethlon a fforddiadwy sydd yn cael eu cyflwyno’n ddeniadol yn unol â disgrifiad Blas am Oes.
- Profiad bwyta pleserus sydd yn sail i werthfawrogi pob disgybl, yn talu sylw i ffactorau allweddol fel hyd yr egwyl ginio a rheoli ciwio.
- Dŵr ffres wedi’i oeri am ddim mewn man gwahanol i’r toiledau ar gyfer yr holl ddisgyblion
- Arddangosiadau a deunyddiau marchnata o fewn, ac o gwmpas, mannau gweini bwyd i hyrwyddo’r cysylltiad cadarnhaol rhwng bwyd a gweithgarwch corfforol.
- Ymgysylltu â disgyblion ynghylch cynllunio gwasanaeth, llunio bwydlenni, darparu a marchnata trwy Gynghorau Ysgol a’r Grwp Gweithredu Maeth yr Ysgol.
Ni fydd yr ysgol yn hysbysebu brandiau o fwyd a diod ar dir, offer na llyfrau’r ysgol a bydd yn sicrhau nad fydd angen cymeradwyo brandiau na chynnyrch cwmnïau penodol sydd yn uchel mewn braster, siwgr na halen wrth gydweithio â busnesau.
Bydd yr ysgol yn adolygu a datblygu rhaglen cyfleoedd y tu allan i oriau ysgol sydd yn ymwneud â bwyd a gweithgaredd corfforol i gyd-fynd â, ac i ehangu’r rhai a gynigir yn ystod amser cwricwlwm, gyda’r nod o ddarparu:
- Amrediad eang o gyfleusterau chwarae a hamdden diogel ac ysgogol o dan do ac yn yr awyr agored, gan gynnwys gweithgareddau iach egniol a chlybiau Campau’r Ddraig mewn ysgolion cynradd a gweithgareddau 5x60 mewn ysgolion uwchradd.
- Offer a chyfleusterau chwarae diogel, a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda iawn
- Arddangosfeydd atyniadol i’r llygad o gwmpas yr adran AG a mannau cyhoeddus yr ysgol i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer campau a gweithgarwch corfforol e.e. cynllun nofio di-dâl Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’r cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol a bwyd
- Lle diogel i gadw beiciau ac offer diogelwch
- Mannau di-draffig dynodedig y tu allan i’r ysgol ar amseroedd allweddol i sicrhau diogelwch beicwyr a cherddwyr fel rhan o waith Llwybrau Diogel i’r Ysgol, trwy gysylltu ag adran briffyrdd yr Awdurdod Lleol, ac
- Annog disgyblion i gerdded neu feicio i’r ysgol.
- Y Gymuned
O fewn ei hamcan eang o ‘addysg i fyw’, bydd yr ysgol yn ceisio:
- Codi ymwybyddiaeth am, a hyrwyddo gweithgareddau a pholisi’r ysgol ar fwyd a ffitrwydd mewn partneriaeth ag asiantaethau iechyd a chymunedol allweddol
- Defnyddio’r cwricwlwm i annog cartrefi’r disgyblion i ddarparu bwyd a byrbrydau iach trwy roi gwybodaeth i rieni ac mewn partneriaeth ag asiantaethau iechyd a chymunedol allweddol
- Casglu, coladu a rhoi gwybodaeth gyfredol a phrofiad i ddisgyblion o’r cyfleoedd a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned o ran bwyd a maeth, gweithgarwch corfforol a chwaraeon.
- Cefnogi darparu clwb coginio y tu allan i oriau ysgol ar gyfer disgyblion a’u teuluoedd
- Ymchwilio i’r cyfleoedd i ddatblygu clybiau garddio ar gyfer disgyblion, rhieni a’r gymuned
- Darparu cynghreiriau a phartneriaethau gyda darparwyr lleol (e.e. clybiau chwaraeon, canolfannau hamdden, colegau amaethyddol, ffermydd/siopau fferm, colegau arlwyo, busnesau lleol)
- Gweithio gyda, ac ymgyrchu dros gael gwasanaethau bwyd iach a chyfleoedd i fod yn egniol yn y gymuned (e.e. llwybrau cerdded/beicio diogel).
Gweithredu a Monitro
- Bydd y corff llywodraethol yn enwi un neu ragor o lywodraethwyr unigol i gymryd cyfrifoldeb neilltuol am y polisi Bwyd a Ffitrwydd
- Bydd aelod o’r TRhY yn cadeirio’r Grwp Gweithio Bwyd a Ffitrwydd ac yn atebol i’r corff llywodraethol am gydlynu a rheoli’r polisi
- Bydd TRhY yn sicrhau bod digon o hyfforddiant ac adnoddau yn cael eu darparu ar gyfer y staff sydd yn gyfrifol am gyflwyno nodau ac amcanion polisi Bwyd a Ffitrwydd yr ysgol
- Bydd TRhY yn manteisio ar y cynlluniau cenedlaethol a lleol a’r adnoddau sydd ar gael eisoes ar gyfer bwyd a gweithgarwch corfforol
- Bydd TRhY a’r llywodraethwyr yn monitro’r datblygiad yn rheolaidd
- Bydd diweddariadau ar gamau gweithredu bwyd a ffitrwydd yr ysgol yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol at y rhieni.
|
 |
|
|