Newyddion / News
Gwyl Agor Drysau
Cafodd holl ddisgyblion o'r Dosbarth Derbyn i flwyddyn 6 gyfle arbennig yn ddiweddar i fwynhau perfformiadau gan actorion proffesiynol, drwy'r wyl Agor Drysau. Bu disgyblion y dosbarth Derbyn a Bl.1 fwynhau perfformiad o sioe 'Chwarae' gan gwmni Theatr Iolo yn yr ysgol. Aeth disgyblion Bl.2, 3 a 4 i Theatr y Werin i wylio 'Un Petit Peu' a phlant Bl.5 a 6 i weld 'Refugi yn Theatr y Werin. Roedd Theatr Y Werin yn orlawn, a phawb yn mwynhau'r profiad yn fawr. Fel ysgol, rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am ddarparu grant sylweddol er mwyn galluogi disgyblion yr ysgol i fynychu’r sioe. Theatre Visit All pupils from Reception class to Yr.6 had a great experience recently of enjoying visiting theatre company performances, as part of the annual 'Gwyl agor Drysau / Opening Doors Festival'. Reception and Yr.1 pupils enjoyed a performance of 'Chwarae / Playing' in the school hall. Yr. 2, 3 and 4 pupils went to Theatr y Werin to see a performance of 'In Petit Peu' and Yrs. 5 and 6 to enjoy 'Refugee' in the theatre. Everyone enjoyed the powerful performances and can't wait to go again! As a school, we're very grateful to the Arts Council Wales for their generous grant funding which allowed our pupils to attend this wonderful show. |
Diwrnod y Llyfr
Cafodd nifer o blant yr ysgol gyfle i ddathlu ‘Diwrnod y Llyfr’ yng Nghanolfan y Celfyddydau ar yr 28ain o Chwefror. Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru a bu’r plant wrth eu boddau yn gwrando ar awduron enwog yn darllen ar goedd pytiau difyr o’u llyfrau. Cafodd y plant hefyd gyfle ar ddiwedd y sesiwn i siarad gyda’r awduron am eu llyfrau a sut i fynd ati i ysgrifennu stori dda. World Book Day Many of the children took advantage of the opportunity to meet famous authors in Aberystwyth Arts Centre on Wednesday 28th February, to celebrate World Book Day. The event was organised by The Welsh Books Council and the children had a wonderful time listening to the authors read snippets from their books, and participate in a workshop on how to write a good story. |
Dydd Gŵyl Dewi
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi drefnodd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol noson adloniant yn neuadd y pentref. Braf yn wir oedd gweld y neuadd yn llawn ar noson mor oer a rhewllyd. Yn ystod y noson perfformiwyd eitemau Eisteddfod yr Urdd gan blant yr ysgol o lefaru i gerdd dant. Diolch yn fawr i’r Gymdeithas am drefnu, i’r plant am berfformio mor wych, yr athrawon am yr hyfforddiant a diolch mawr i’r rhieni a ffrindiau’r ysgol fuodd mor barod i gefnogi’r digwyddiad ar noson mor aeafol. St. David's Day Many thanks to our PTA who organised a St. David's Day celebration concert for the whole community. It was great to see the hall full, especially as the weather conditions were not favourable! The children performed items prepared for the Urdd Eisteddfod, ranging from reciting to 'cerdd dant' singing. Many thanks to the children for sharing their talents with us, to the staff for preparing the children for their competitions, and thank you also to everyone who supported the concert on such a wintery evening. |
Y Gymuned
Ar ddiwedd y tymor fe aeth Mr Alan Philips, athro peripatetig pres y sir, â band pres yr ysgol i ddiddanu henoed Cartref Tregerddan. Mae’r ymweliad hwn yn ddigwyddiad traddodiadol bellach ac mae’r henoed yn disgwyl yn eiddgar i glywed dawn yr offerynwyr. Diolch i Mr Phillips am ei arweiniad a’i barodrwydd i ddangos y talentau lleol yn y gymuned. Yn ogystal, ar y 19eg o Ragfyr bu rhai o blant yr ysgol yn diddanu cwsmeriaid Archfarchnad Morrisons. Ac o fewn awr codwyd £140. Da iawn chi! Community At the end of term, Mr Alan Phillips, our brass peripatetic teacher, took the school band to Cartref Tregerddan residential home to entertain the residents. The school band has kept this tradition for many years and it was lovely to see the enjoyment experienced by the elderly residents. A special thank you to Mr Phillips for his hard work in preparing the band. On the 19th December, members of the school choir and band went to entertain the shoppers at Morrison's supermarket as they arrived to do their Christmas shopping! Within an hour, the children managed to raise £140. well done! |
Perfformiadau'r Nadolig
Cafwyd perfformiadau arbennig gan blant yr ysgol i ddathlu’r Nadolig; yn gyntaf, roedd neuadd yr ysgol yn llawn ar fore’r 12fed a’r 13eg ar gyfer cyngerdd Nadolig yr Uned Feithrin. Cafwyd perfformiadau campus yn ystod y ddau fore. Ac ar y 14eg, yng Nghapel y Garn cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig plant blwyddyn 1-6. Cafwyd gwledd o actio a chanu yn ystod y noson o flaen cynulleidfa werthfawrogol iawn. Hoffa’r ysgol ddiolch i aelodau’r Garn am y cydweithrediad a’r cymorth yn ystod yr ymarferiadau a’r perfformiad ar y noson. Diolch i bawb am eu hymroddiad yn ystod yr ymarferiadau a’r perfformiadau. Diolch i Elfyn Jones Dole am ffilmio’r perfformiadau-mi fydd y DVD yn barod cyn hir. Diolch arbennig i Meinir Chambers, Banc Barclays am drefnu punt am bunt noson y Garn ac yn y broses codi £1,059.60 i’r ysgol. Christmas Performances We're very grateful to our pupils for performing so brilliantly in our Christmas shows. Firstly, the school hall was packed on both mornings of the Nursery and Reception classes Nativity, and the children gave excellent performances. On December 14th, pupils from Yr.1-6 performed their shows in Capel Y Garn, closing the evening with a wall of wonderful singing. We're very proud of all the children for their efforts acting, singing and reciting. Thank you very much to the members of Capel Y Garn who were very supportive and of great assistance whilst organising the evening. Also, a special thank you to Elfyn Jones, Dole, who filmed the performances - and to all the parents and friends of the school for their support. We're very grateful to Mrs Meinir Chambers of Barclays Bank, who kindly organised £1 for £1 on the proceeds of the night, totalling £1,059.60 |
Ymweliad Panto
Cafodd holl ddisgyblion CA2 brofiad arbennig yn ddiweddar wrth iddynt gael cyfle i fwynhau panto gan gwmni Mega, Culhwch ac Olwen. Roedd Theatr Y Werin dan ei sang, ac yn for o chwerthin a gwaeddi, a phawb yn mwynhau. Fel ysgol, rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am ddarparu grant sylweddol er mwyn galluogi disgyblion yr ysgol i fynychu’r sioe. Panto Visit All our KS2 children had a fantastic time watching Culhwch ac Olwen recently, a production by Cwmni Mega. Theatr Y Werin was packed full to the rafters and was brought to life with laughter, shouting and pure enjoyment. As a school, we're very grateful to the Arts Council Wales for their generous grant funding which allowed our pupils to attend this wonderful show. |
Goleuadau Nadolig
Roedd hi'n braf iawn gweld cymaint o blant yr ysgol, rhieni a thrigolion y pentref dod ynghyd i oleuo goleuadau'r goeden Nadolig o flaen yr ysgol. Pleser oedd cael clywed y band pres yn chwarae wrth i bawb ymgynnull. Diolch yn fawr iawn i Gyngor Cymuned Tirmynach am ddarparu'r goleuadau eto eleni. Christmas Lights It was lovely to see so many pupils, parents and local residents join us to light up the Christmas tree lights in front of school. It was a pleasure to hear the school's brass band playing as people arrived. We're grateful to the Tirmynach Community Council for supplying the lights again this year. |
Llysgenhadon Efydd
Er mwyn hyrwyddo iechyd a ffitrwydd yng Ngheredigion mae Llysgenhadon Ifanc wedi eu penodi ar draws ysgolion y Sir. Yn Ysgol Rhydypennau penodwyd Gethin o flwyddyn 5 ac fe ail-benodwyd Ella o flwyddyn 6. Y mae’r ddau wedi derbyn hyfforddiant gan drefnwyr Aml sgiliau’r Sir ac erbyn hyn mae’r ddau yn trefnu sesiynau iechyd a ffitrwydd yn y clwb cyn ysgol pob bore Llun a phob bore Iau o 8:15 ymlaen. Llongyfarchiadau i chi'ch dau! Bronze Ambassadors In order to promote health and fitness, Ceredigion Council has seen the appointments of Bronze Young Ambassadors across the county. In Ysgol Rhydypennau, Gethin from Year 5 and Ella from Year 6 were the successful candidates. Ella and Gethin have both received training from the county's multi-skills trainers, and are now responsible for running the health and fitness classes from 8:15am every Monday and Thursday mornings in our pre-school club. Congratulations to you both! |
Taith i'r Goedwig
Fe aeth plant y Meithrin a’r Derbyn ar daith mewn bws yn ddiweddar. Pwrpas y daith oedd cyrraedd Coedwig Gogerddan. Yn y goedwig, gwelwyd nifer o bethau diddorol iawn yn cynnwys bywyd gwyllt a phlanhigion amrywiol. Cafwyd cyfle hefyd i arsylwi ar yr holl ddail sydd wedi disgyn o’r coed yn ystod yr hydref a bu’r plant wrthi’n ddiwyd yn cymharu eu siapiau a’u lliwiau Trip to the woods Our Nursery and Reception pupils enjoyed a bus journey and trip to Gogerddan Forestry recently. After arriving, everybody experienced lots of different things, such as wildlife and a variety of plants. It was very interesting to see all the leaves that had fallen off the trees during the autumn and it was lots of fun collecting and comparing their shapes, colours and sizes. |
Diolchgarwch
Ar ddydd Iau y 26ain o Hydref, cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch blynyddol. Yn dilyn ein trefn arferol bellach, aethpwyd allan o neuadd yr ysgol ac i Eglwys Llandre ble ymunodd nifer o drigolion y gymuned â ni. Yn ystod ein gwasanaeth cafwyd gwledd o ganu a llefaru graenus. Braf hefyd oedd mwynhau cwmni cyn athrawes yr ysgol, Mrs Helen Jones, am iddi gytuno i fod yn siaradwr gwadd ein gwasanaeth eleni. Hoffwn fel ysgol ddiolch i aelodau’r Eglwys yn enwedig Mr Roger Haggar am hwyluso’r trefniadau yn ystod yr wythnosau’n arwain at ein gwasanaeth. Diolch i Mrs Wendy Jones, staff y gegin a Phwyllgor yr Henoed am drefnu’r lluniaeth blasus yn dilyn ein gwasanaeth. A diolch hefyd i bawb am eu cyfraniadau haul ar gyfer ein elusen eleni sef ‘Heart Foundation Cymru’ Harvest On Thursday 26th October, we held our annual Harvest Thanksgiving Service in Llandre Church. It was lovely to welcome many local residents who joined in with the celebrations. The singing and reciting was wonderful, and it was a pleasure to welcome back Mr Helen Jones, a former teacher at the school, who addressed the children and congregation. We're very grateful to the members of the Church and particularly to Mr Roger Haggar who assisted us with the arrangements for the service. Many thanks also, to Mrs Wendy Jones and the kitchen staff and to the Bow Street elderly society for arranging the wonderful tea following the service. Thank you all for your kind donations towards our chosen charity, The British Heart Foundation Wales. |
Plant Mewn Angen
Cafwyd prynhawn llawn hwyl ar ddiwrnod Plant Mewn Angen, gyda disgyblion Bl.6 yn trefnu stondinau a gweithgareddau amrywiol er mwyn codi arian at achos da. Yn ogystal â'r ffair yn y prynhawn, death disgyblion i'r ysgol mewn gwisg ffansi. Casglwyd £369.85, sy'n swm ardderchog. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth. Children in Need We had a fantastic afternoon to mark Children in Need day. Our Yr.6 pupils organised a bring and buy sale and a variety of different activities to raise money for this worthy cause. Pupils came to school in a variety of fancy dress costumes. Together we raised £369.85. Thank you very much everyone for your support. |
Sioe Arad Goch
Cafwyd perfformiad trawiadol o'r sioe 'Nid Fi' gan Gwmni Theatr Arad Goch yn ddiweddar, yn seiliedig ar effaith bwlio. Roedd pawb wedi mwynhau'r sioe a'r cyfle i gymryd rhan yn y gweithdai yn dilyn y perfformaid. Diolch yn fawr iawn i'r perfformwyr. Arad Goch Performance Arad Goch Theatre Company gave a striking performance of the show 'Nid Fi / Not Me" with the storyline based on the effects of bullying. Everybody thoroughly enjoyed the show and taking part in the workshops following the play. Thank you very much to all the performers. |
Trawsgwlad
Llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhedeg yng nghystadleuaeth Trawsgwlad Ysgolion Cylch Aberystwyth yn ddiweddar a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth. Braf iawn oedd cael gweld cymaint o ddisgyblion yn cynrychioli'r ysgol ac yn mwynhau’r profiad o gystadlu. Da iawn chi! Cross Country Well done to everyone who competed in the Area Schools' Cross Country Competition recently at Aberystwyth Rugby Club. It was great to see so many of our pupils competing and thoroughly enjoying the experience. Well done everyone! |
Gwasanaethau Brys
Braf iawn oedd cael croesawi Swyddogion Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i gynnal gwasanaeth gyda'r disgyblion. Diolch yn fawr iawn am ddod i rannu negeseuon pwysig gyda'r plant am sut i gadw'n ddiogel. Emergency Services Many thanks to the officers from Dyfed Powys Police and from the Mid and West Wales Fire and Rescue Service for delivering a safety talk to our pupils. We are very grateful for the input of the emergency services who help keep us all safe from danger. Thank you very much for your time. |
Hoci
Diolch yn fawr iawn i Alison Jones o Alison Jones Schoolwear am noddi ein cit hoci newydd. Mae'r plant i gyd wrth eu boddau gyda'r cit 'swish' newydd, ac yn edrych ymlaen cael chwarae yn eu crysau newydd. Diolch yn fawr iawn Alison! Hockey A very special thank you to Alison Jones, of Alison Jones Schoolwear for sponsoring our new hockey kit. The children are delighted with their swish new kits and are very excited about playing in their new colours. Many thanks, Alison! |
Ffarwelio
Hoffa’r ysgol ddymuno pob hwyl i blant blwyddyn 6 llynedd wrth iddynt ddechrau bywyd addysgol newydd yn yr ysgolion uwchradd. Yn anffodus bu’n rhaid ffarwelio â Miss Olwen Morus ar ddiwedd tymor yr Haf. Bu Miss Morus yn aelod o’n staff dysgu am ddegawd. Hoffa’r ysgol ddiolch o galon iddi am ei gwaith caled yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol gan ddymuno’n dda iddi i’r dyfodol Thank you very much We would like to wish all our year 6 pupils every success and happiness as they begin their new journey in secondary school in September. Thank you for everything you've done for the school over many years. Unfortunately, we also said farewell to Miss Olwen Morus at the end of the summer term. Miss Morus has been part of the Foundation Phase team for 10 years! We'd like to wish her all the best for the future and say a very special thank you for all her hard work. Pob lwc Miss Morus, a diolch yn fawr iawn. |
Gala Nofio
Enillwyr Gala Nofio’r ysgol eleni oedd Ystwyth. Elen Morgan (bl 6) lwyddodd i ennill y wobr am y nifer fwyaf o bwyntiau yng nghystadleuaeth y merched a Noa Elias (bl 3) lwyddodd i ennill cystadleuaeth prif bwyntiau’r bechgyn. Llongyfarchiadau mawr i chi. Swimming Gala The winners of this year's swimming gala was Ystwyth. The prizes for the highest number of points went to Elen Morgan (Yr.6) for the girls, and to Noa Elias (Yr.3) who won the highest points for the boys. Congratulations to everyone who took part. Da iawn chi! |
Mabolgampau
Cynhaliwyd ein mabolgampau eleni ar y 15ed o Fehefin. Y tîm buddugol oedd Eleri; ail oedd Ystwyth gyda Rheidol yn drydydd. Llongyfarchiadau i Elen Morgan (bl 6) am ennill y nifer fwyaf o bwyntiau yng nghystadleuaeth merched blwyddyn 5 a 6; Harri Jones (bl 6) am ennill y nifer o bwyntiau yng nghystadleuaeth bechgyn 5 a 6; Llio Tanat (bl 4) am ennill y nifer o bwyntiau yng nghystadleuaeth merched blwyddyn 3 a 4 a Gethin Davies (bl 4) am ennill y nifer o bwyntiau yng nghystadleuaeth bechgyn blwyddyn 3 a 4 Sports Day Everybody enjoyed a fun-packed sports day on 15th June. This year, Eleri took the 1st prize with Ystwyth 2nd and Rheidol 3rd. Many congratulations to Elen Morgan (Yr.6) for winning the highest number of points for Yr.5/6 girls; Harri Jones (Yr.6) for the highest number of points for Yr.5/6 boys; Llio Tanat for Yr.3/4 girls and Gethin Davies for Yr.3/4 boys. Well done to everyone who took part and for making the event such a pleasure to watch. |
Garddwest
Cynhaliwyd ein Garddwest eleni ar y 30ain o Fehefin. Cafwyd nifer o weithgareddau difyr ac amryw o stondinau er mwyn codi arian i’r ysgol. Diolch o galon i Bwyllgor Cymdeithas Rhieni Athrawon yr ysgol am drefnu’r noson ac i rieni a chyfeillion yr ysgol a fu’n barod iawn i gynnig cymorth hefyd. Diolch i’n prif noddwyr, Robert ac Alison Grover. Diolch hefyd i noddwyr y gwobrau, Rhodri a Cêt Morgan, Mid Wales Travel a Spar Bow-Street am eu cyfraniadau hael hwy. Mi fydd yr arian a godwyd yn ystod y noson yn gymorth sylweddol i brynu adnoddau a chyfarpar pwysig er mwyn hyrwyddo addysg pob plentyn yn yr ysgol School Fete Our school fete fundraiser was held on the 30th June, where we experienced a great turnout and a variety of stalls and games to entertain the crowds. Many thanks to our Parent Teacher Association for organising the event and for all their help and support for making the event such a success. A special thank you to our main sponsors, Rhodri and Cet Morgan, Mid Wales Travel and Spar Bow Street for their kind donations. The money raised will go a long way to help us buy much needed resources to enhance the children's learning experiences. Thank you all for supporting our fete. |
Proms Ceredigion
Llongyfarchiadau i bawb a fu'n perfformio gyda Chôr a Cherddorfa ysgolion y sir yng nghyngerdd haf 'Proms Ceredigion'. Roedd hi'n braf iawn gweld Neuadd Fawr Aberystwyth dan ei sang, ac yno naws bendigedig. Roedd sain y gerddorfa a'r côr yn arbennig. Profiad a hanner oedd cael rhannu llwyfan gyda Siân Cothi a Gwawr Edwards! Ceredigion Proms Many congratulations to everyone who performed with the county choir and orchestra in the Ceredigion Primary Schools' Proms 2017. It was good to see the Great Hall in Aberystwyth packed to the rafters, and with it such a wonderful atmosphere. The quality and sound of the orchestra and choir were excellent, and a credit to the children and the Ceredigion Music Service. It was a finale to remember as the children shared the stage with world famous performers, Sian Cothi and Gwawr Edwards! |
Mabolgampau
Dyma'r criw a fu'n cynrychioli'r ysgol yng nghystadlaethau Mabolgampau Ysgolion Cylch Aberystwyth. Bu'r diwrnod yn un wych o gystadlu iach. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu hymroddiad, a llongyfarchiadau mawr iawn i chi bob un. Area Schools' Sports Here's some of our sporting crew who represented the school in the Area Schools' Sports competition. We had a fantastic day of competing. Well done to everyone for a fantastic effort and many congratulations on your success! |
Gardd Yr Ysgol
Mae gardd yr ysgol yn edrych yn wych! Diolch yn fawr iawn i'r plant, rhieni a staff sydd wedi bod yn paratoi a gofalu am ein gerddi llysiau a blodau. Mae pawb yn edrych ymlaen at flasu ffrwyth ein llafur! School Garden Our school garden is looking fabulous! Thanks to all the children, staff and parents who have prepared and looked after the garden this year. Everyone is looking forward to tasting the produce! |
Proudly powered by Weebly