Y Cyngor Ysgol / The School Council
Credwn fod y Cyngor Ysgol yn rhan hanfodol o wneud penderfyniadau ac arwain ein hysgol. Rydym, fel Cyngor, yn cynrychioli pob disgybl yn ein hysgol ac yn sicrhau fod ein llais ni'n cyfri. Credwn fod siarad â'n cyd-ddisgyblion yn bwysig er mwyn cael safbwynt cytbwys o deimladau disgyblion, ac rydym yn trosglwyddo'r negeseuon pwysig yma i'r Cyngor Ysgol Lawn yn ein cyfarfodydd. Rydym yn rhoi adborth i ddisgyblion yr ysgol o benderfyniadau'r cyngor trwy wasanaethau ysgol gyfan a fesul dosbarth. Mae hyn yn sicrhau fod pawb yn ymwybodol o waith y cyngor.
Yn ystod y flwyddyn, rydym yn trafod a threfnu bob math o weithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau codi arian, trefnu gweithgareddau hwyl a llawer mwy... rydym yn falch iawn gael mewnbwn i broses cyfweliadau staff newydd i'r ysgol a hefyd trefnu teithiau o amgylch yr ysgol i ymwelwyr. Os hoffech wybod mwy o wybodaeth ynglŷn â gwaith y Cyngor Ysgol, cymerwch gip ar ein cofnodion isod. Os hoffech gysylltu â ni, gallwch wneud hyn trwy'r ffurflen ar-lein, dan y ddolen 'Cysylltu'. Diolch am eich diddordeb yn ein tudalen ni. Dewch i gwrdd â ni... Cynrychiolwyr Bl 6: Gwenno, Lili ac Elan Cynrychiolwyr Bl 5: Ted, Teagan a Mirain Cynrychiolwyr Bl 4: Wil Elias, Morgan a Maddison Cynrychiolwyr Bl 3: Harri, Poppy a Megan Cynrychiolwyr Bl 2: Seren, Beau a Mia Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei ddweudMae Llywodraeth Cymru (LlC) yn credu bod gan blant a phobl ifanc yr hawl i fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach ac i ddatblygu eu sgiliau a’u potensial drwy gyfrwng addysg. Er mwyn dangos ein bod o ddifri ynglŷn â hyn, rydym wedi llofnodi rhywbeth o’r enw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn). Mae un o’r hawliau yma ("Erthygl 12") yn dweud y dylai plant a phobl ifanc gael dweud eu dweud pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Dyma ddolen ddefnyddiol i chi ddilyn os ydych am wybod mwy am waith a dylanwad cynghorau ysgol yng Nghymru. http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/cymraeg/cynradd/amdanon-ni/ |
At Ysgol Rhydypennau, we believe that our school council plays a vital role in our school community. We represent all pupils in our school and ensure that our voice is heard - Loud and Clear!
We regularly speak to our friends and take their views to school council meetings and then give everybody feedback in assemblies about what's being done. During the year, we meet regularly to discuss all sorts of things. We talk about issues raised by pupils, fundraising ideas, organise school events, lead guided tours for visitors, take part in the interviewing process of new staff and much, much more! Please take a look at our school council minutes below to see what we've been talking about. If you would like to contact us, you can do so via the online submission form, under the 'Contact us' tab and leave a message FAO Rhydypennau School Council. Thank you for your interest in our page. Come and meet us... Yr 6 Reprasentatives: Gwenno, Lili and Elan Yr 5 Reprasentatives: Ted, Teagan and Mirain Yr 4 Reprasentatives: Wil Elias, Morgan and Maddison Yr 3 Reprasentatives: Harri, Poppy and Megan Yr 2 Reprasentatives: Seren, Beau and Mia What the Welsh Government says: "The Welsh Government (WG) believes that all children and young people have the right to be safe, happy and healthy and to develop their skills and potential through education. To show we are serious, we have signed up to something called the United National Convention on the Rights of the Child (UNCRC). One of these rights ("Article 12") says that children and young people should have a say when people are making decisions that affect them." Here's a useful link if you would like to find out more about the positive influence of school councils in Welsh schools. http://www.pupilvoicewales.org.uk/english/primary/about-us/ |
Proudly powered by Weebly